Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 9 Rhagfyr
2015
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3493
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 3, 5, 6, 7 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 3 - 14. Trosglwyddwyd cwestiynau 1 a 2 i'w hateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 4.
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM5885
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;
2. Yn nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddorol anstatudol;
3. Yn nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y ddarpariaeth bresennol a'r anghydraddoldeb cynyddol o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad at y gwasanaethau le='margin-left:28.0pt;text-indent:-1.0cm'>3 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM5885
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;
2. Yn nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddorol anstatudol;
3. Yn nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y ddarpariaeth bresennol a'r anghydraddoldeb cynyddol o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5904 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu ei bod yn bwysig sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer S4C fel darlledwr annibynnol iaith Gymraeg;
2. Yn croesawu ymrwymiad parhaus S4C i symud ei phencadlys allan o Gaerdydd i Gaerfyrddin; a
3. Yn credu bod y cynnig yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant i dorri ymhellach cyllideb adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i S4C gan 26 y cant yn groes i'r amcanion hyn ac felly'n annerbyniol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5905 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Deddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5906 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran canlyniadau addysgol, yn enwedig ym meysydd allweddol darllen, mathemateg a gwyddoniaeth;
2. Yn credu y dylai polisïau addysgol helpu i feithrin arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf, addysgu rhagorol, dyheadau uchel a chyfleoedd i arloesi;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi dangos gallu ac arloesedd â'r rhyddid i ragori drwy:
a) lleihau maint dosbarthiadau babanod i 25 i roi mwy i amser i athrawon ymgymryd â gwaith dysgu gyda disgyblion unigol;
b) cyflwyno rhaglen penaethiaid dawnus i annog arweinwyr i ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi ysgolion sy'n tanberfformio;
c) sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus;
d) cyflwyno cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i'r Cyngor Gweithlu Addysg i sicrhau atebolrwydd gwirioneddol; ac
e) cyflwyno system o fonitro disgyblion unigol, fel y gall athrawon ganolbwyntio ar brofiadau, cyflawniadau a deilliannau disgyblion unigol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
43 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu mai buddsoddi mewn addysg gynnar yw'r ffordd mwyaf effeithiol o gynyddu cyrhaeddiad addysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
10 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi dangos gallu ac arloesedd gan roi'r rhyddid iddynt ragori drwy:
a) cyflwyno rhaglen gynhwysfawr i benaethiaid sy'n cynnig datblygu proffesiynol parhaus a chymorth parhaus i'r holl benaethiaid;
b) gweithio gyda'r proffesiwn addysgu i ddatblygu a chynnig cyfres o raglenni datblygu proffesiynol parhaus sy'n darparu ar gyfer anghenion athrawon ac ysgolion;
c) sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus gorfodol; a
d) dileu'r baich biwrocrataidd ar athrawon i'w galluogi i weithredu system monitro unigol i ddisgyblion.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt a).
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cyflwyno datblygu proffesiynol parhaus gorfodol i athrawon.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw
drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Gwelliant 5 -Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o gapasiti addysgu ac anghenion hyfforddiant er mwyn galluogi cynllunio gweithlu cywir.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw
drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5906 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran canlyniadau addysgol, yn enwedig ym meysydd allweddol darllen, mathemateg a gwyddoniaeth;
2. Yn credu mai buddsoddi mewn addysg gynnar yw'r ffordd mwyaf effeithiol o gynyddu cyrhaeddiad addysgol.
3. Yn credu y dylai polisïau addysgol helpu i feithrin arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf, addysgu rhagorol, dyheadau uchel a chyfleoedd i arloesi;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi dangos gallu ac arloesedd â'r rhyddid i ragori drwy:
a) cyflwyno rhaglen penaethiaid dawnus i annog arweinwyr i ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi ysgolion sy'n tanberfformio;
b) sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus;
c) cyflwyno cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i'r Cyngor Gweithlu Addysg i sicrhau atebolrwydd gwirioneddol; a
d) cyflwyno system o fonitro disgyblion unigol, fel y gall athrawon ganolbwyntio ar brofiadau, cyflawniadau a deilliannau disgyblion unigol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Dechreuodd yr eitem am 17.44
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM5907 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd: mae'n amser i ystyried y syniad hwn unwaith eto.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.08
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2016